Wel dyma hwy'r gadwedig hil, A gadwodd ar y llwybr cul; Trwy fôr o wae, trwy 'storm o wynt, Y buont hwy yn teithio gynt. Hwynt-hwy gas heddwch gan y Tad, Hwynt-hwy a gànwyd yn y gwa'd; Hwynt-hwy yw'r lu sy' oddeutu'r fainc, Yn canu'r waredigol gainc. Eu dagrau oll a sychwyd ffwrdd, Galar a thristwch byth nis cwrdd; Ni ddaw marwolaeth mwy na phoen, I ŵydd y croeshoeliedig Oen. Priod-ferch Iesu yw y rhai'n, A wisgwyd oll â lliain main; Yn edrych ar ei wedd bob awr, Yn nghanol y gogoniant mawr. Coronau ar eu penau gaer, Ac yn eu dwylaw d'lynau aur; Yn canu Aleluia'n hy', Nes datsain yr holl nefoedd fry. Gwnfyd f'ai 'mhlith y miloedd myrdd, Sy'n awr yn gwisgo y palmwydd gwyrdd; O Arglwydd da, dywed a ga'i I fod yn un o'r dysglaer rai?William Williams 1717-91 Aleluia 1749 Tôn [MH 8888]: Savoy (<1811)
gwelir: Rhan II - Yno y mae fy Mrenhin mawr Rhan III - O flaen y fainc mil miloedd mae Rhan IV - Yno mae'r apostolion mawr |
See here the saved race, That he kept on the narrow path; Through a sea of woe, through a storm of wind, They were once travelling. They, they got peace from the Father, They, they were bleached in the blood; They, they are the host who are around the throne, Singing the deliverance strain. 'Tis their tears that were all dried away, Lamenting and sadness they shall never meet; Neither death nor pain shall come any more, To the presence of the crucified Lamb. The bride of Jesus are these, Who were all dressed in fine linen; Looking upon his face every hour, In the midst of the great glory. Crowns on their heads there shall be, And in their hands harps of gold; Singing Alleluia boldly, Until all heaven above resounds. Blessed it would be amongst the myriad of thousands, Who are now wearing the green palms; O good Lord, tell whether I shall get To be one of the radiant ones?tr. 2024 Richard B Gillion. |
|